RNIB’s Connect Radio is the award winning radio station for the blind and partially sighted community, setting new standards for international and accessible broadcasting.
Broadcasting online, on FM in Glasgow and across the UK on Freeview 730, we want you to join our team and continue the success of our national radio station.
You’ll produce and present a broad range of informative content for the station, giving a voice to the blind and partially community around the UK and beyond.
With experience in broadcast media, you will have an appreciation of the issues debated by the blind and partially sighted community. You'll also be prepared to work as part of a multi-skilled team to help develop the station and deliver a professional service to listeners.
We’re the Royal National Institute of Blind People (RNIB) and we’re here for everyone affected by sight loss. Working for us means working for one of the UK’s biggest charities, supporting almost two million people living with sight loss in the UK.
RNIB is committed to being led by our customers (blind and partially sighted people), and one of the ways we do this is through active involvement and engagement in many of our work activities, including the recruitment of new members of staff.
Please be aware that blind and partially sighted volunteers may be involved in the recruitment and selection process for this vacancy; including reviewing job applications and CV’s, shortlisting and interviews and selection tests.
RNIB is committed to being an Equal Opportunities organisation and we welcome applications from people with sight loss.
Cyflog: £26,905 y flwyddyn
Math o gontract: Parhaol
Oriau gwaith: 36 awr yr wythnos.
Gorsaf radio ar gyfer y gymuned ddall ac â golwg rhannol yw Radio Connect yr RNIB, sydd wedi ennill gwobrau a gosod safonau newydd ar gyfer darlledu rhyngwladol a hygyrch.
Gan ddarlledu ar-lein, ar FM yn Glasgow, ac ar sianel Freeview 730 ledled Prydain, rydyn ni am i chi ymuno â’n tîm a pharhau â llwyddiant ein gorsaf radio.
Byddwch yn cynhyrchu ac yn cyflwyno ystod eang o gynnwys addysgiadol ar gyfer yr orsaf, gan roi llais i’r gymuned ddall ac â golwg rhannol ledled gwledydd Prydain a’r tu hwnt.
Gyda phrofiad ym maes y cyfryngau darlledu, byddwch yn gwerthfawrogi’r materion sy’n berthnasol i’r gymuned ddall ac â golwg rhannol. Byddwch hefyd yn barod i weithio fel rhan o dîm aml-sgil i helpu i ddatblygu’r orsaf a darparu gwasanaeth proffesiynol i wrandawyr.
Yn dâl am hynny, rydyn ni'n cynnig cyflog cystadleuol, amgylchedd gwaith ysgogol a chefnogol a phecyn buddion sy'n cynnwys:
Ni yw’r Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB) ac rydyn ni yma i helpu pawb sy'n colli'u golwg. Wrth weithio i ni, rydych chi'n gweithio i un o elusennau mwyaf Prydain, sy'n cefnogi bron i ddwy filiwn o bobl sy'n colli’u golwg.
Mae’r RNIB yn ymroddedig i weithredu dan arweiniad ein cwsmeriaid (sef pobl ddall ac â golwg rhannol), ac un o’r ffyrdd rydyn ni’n gwneud hynny yw drwy annog cyfranogiad ac ymgysylltiad â llawer o’n gweithgareddau gwaith, gan gynnwys recriwtio aelodau newydd o staff.
Dylech fod yn ymwybodol y gallai gwirfoddolwyr dall ac â golwg rhannol fod yn rhan o’r broses recriwtio a dethol ar gyfer y swydd yma; gan gynnwys adolygu ceisiadau swydd a CVs, creu rhestrau byrion, cyfweld, a chynnal profion dethol.
Mae'r RNIB wedi ymrwymo i fod yn sefydliad Cyfle Cyfartal ac rydyn ni'n croesawu ceisiadau gan bobl sydd â cholled golwg.