We’re the Royal National Institute of Blind People (RNIB) and we’re here for everyone affected by sight loss. Working for us means working for one of the UK’s biggest charities, supporting almost two million people living with sight loss in the UK.
RNIB is leading the creation of a world where there are no barriers for people with sight loss. One of our key priorities is to ask people to see sight loss differently, reversing inaccurate perceptions and changing public behaviours so everyone expects equal participation from people with sight loss and the creation of a fully accessible society.
What we are looking for
We are looking for someone to review, develop and support the implementation of RNIB’s Welsh Language Scheme across the organisation, embedding our commitment to ensuring that Welsh speaking blind and partially sighted people can participate in and receive our services and support in Welsh.
Impact
Having the option to engage with RNIB through the medium of Welsh is not just about a preference. We know that many Welsh speakers feel more comfortable expressing themselves in Welsh, feel more confident communicating their needs in Welsh, think and live their lives in Welsh. We want to make sure that every Welsh speaker can engage with RNIB in the Welsh Language.
We actively encourage applicants with lived experience of sight loss to apply for this role.
What you’ll be doing
Be the link with key external stakeholders including the Welsh Language Commissioner’s office, NHS Cymru and Welsh Government to ensure that RNIB is aware of the latest policies and opportunities releating to the Welsh language.
You will be based within the External Affairs and Communications team in Wales but work across the organisation, in particular within our national Customer Programme.
Home working is available with an office base in Cardiff. The post will involve some travelling with regular face to face meetings in Cardiff with your colleagues.
What we offer
In exchange we offer a competitive salary, a stimulating and supportive working environment and a benefits package including:
If you would like to apply for this great job opportunity, please review the attached documents, then select ‘Apply Online' at the bottom of this page and add your details to our short application form. Then you'll need to upload your CV, along with a cover letter telling us how you meet the Specialist Skills, Knowledge and Experience criteria:
Desirable
This Appointment may be subject to an Enhanced Criminal Records Check and relevant Barred Lists check, where appropriate.
One of our core values is to be led by blind and partially sighted people and we involve our customers in recruitment. Please be advised that your anonymised application may be shared internally with those involved in the recruitment process.
RNIB is committed to equality of opportunity and to promoting and celebrating the diversity of its staff and volunteers. We welcome everyone’s contribution and are proud of our status as a Disability Confident Leader. We welcome applications from people with sight loss and talented people from all sections of the community who share our values.
Ni yw’r Royal National Institute of Blind People (RNIB) ac rydym yma i bawb y mae colled golwg yn effeithio arnynt. Mae gweithio i ni yn golygu gweithio i un o elusennau mwyaf y DU, gan gefnogi bron i ddwy filiwn o bobl sy'n byw gyda cholled golwg yn y DU.
Mae’r RNIB yn arwain y gwaith o greu byd lle nad oes rhwystrau i bobl sydd â cholled golwg. Un o’n blaenoriaethau allweddol yw gofyn i bobl weld colled golwg yn wahanol, gan wyrdroi canfyddiadau anghywir a newid ymddygiad y cyhoedd fel bod pawb yn disgwyl cyfranogiad cyfartal gan bobl sydd â cholled golwg a chreu cymdeithas gwbl hygyrch.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano
Rydym yn chwilio am rywun i adolygu, datblygu a chefnogi gweithredu Cynllun Iaith Gymraeg yr RNIB ar draws y sefydliad, gan ymgorffori ein hymrwymiad i sicrhau bod pobl ddall a gyda golwg rhannol sy’n siarad Cymraeg yn gallu cymryd rhan a derbyn ein gwasanaethau a’n cefnogaeth yn y Gymraeg.
Effaith
Nid dewis yn unig yw cael yr opsiwn i ymgysylltu â’r RNIB drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn gwybod bod llawer o siaradwyr Cymraeg yn teimlo’n fwy cyfforddus yn mynegi eu hunain yn y Gymraeg, yn teimlo’n fwy hyderus yn cyfathrebu eu hanghenion yn y Gymraeg, yn meddwl ac yn byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod pob siaradwr Cymraeg yn gallu ymgysylltu â’r RNIB yn y Gymraeg.
Rydym yn annog ymgeiswyr sydd â phrofiad personol o golled golwg i wneud cais am y rôl hon.
Beth fyddwch chi'n ei wneud
Byddwch wedi eich lleoli yn y tîm Materion Allanol a Chyfathrebu yng Nghymru ond yn gweithio ar draws y sefydliad, yn enwedig o fewn ein Rhaglen Cwsmeriaid genedlaethol.
Mae gweithio gartref ar gael, gyda swyddfa yng Nghaerdydd. Bydd y swydd yn cynnwys rhywfaint o deithio gyda chyfarfodydd wyneb yn wyneb rheolaidd yng Nghaerdydd gyda'ch cydweithwyr.
Beth rydym yn ei gynnig
Rydym yn cynnig cyflog cystadleuol, amgylchedd gwaith ysgogol a chefnogol a phecyn manteision sy’n cynnwys y canlynol:
Os hoffech chi wneud cais am y cyfle gwych hwn am swydd, adolygwch y dogfennau sydd wedi’u hatodi, wedyn dewiswch ‘Gwneud Cais Ar-lein’ ar waelod y dudalen hon ac ychwanegwch eich manylion at ein ffurflen gais fer. Wedyn bydd angen i chi uwchlwytho'ch CV, ynghyd â llythyr yn cyd-fynd, yn dweud wrthym sut rydych chi'n bodloni'r meini prawf Sgiliau Arbenigol, Gwybodaeth a Phrofiad:
Dymunol
Gall y Penodiad hwn fod yn amodol ar Archwiliad Cofnodion Troseddol Manwl ac Archwiliad Rhestrau Gwahardd perthnasol, lle bo hynny’n briodol.
Un o'n gwerthoedd craidd yw cael ein harwain gan bobl ddall ac â golwg rhannol ac rydym yn cynnwys ein cwsmeriaid wrth recriwtio. Cofiwch y gall eich cais dienw gael ei rannu'n fewnol â'r rhai sy'n ymwneud â'r broses recriwtio.
Mae’r RNIB wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac i hyrwyddo a dathlu amrywiaeth ei staff a'i wirfoddolwyr. Rydym yn croesawu cyfraniad pawb ac yn falch o’n statws fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd â cholled golwg a phobl dalentog o bob rhan o’r gymuned sy’n rhannu ein gwerthoedd.